Y Grŵp Trawsbleidiol ar

y Lluoedd Arfog a Chadetiaid

Dydd Mawrth 18 Mawrth 2014 - 12.15-13.15

Ystafell Bwyllgora 4, Tŷ Hywel, y Cynulliad Cenedlaethol

 

Cofnodion y cyfarfod

 

1.    Croeso gan y Cadeirydd

Cafwyd ymddiheuriadau ar gyfer y canlynol:

·         Ni all Comodor Miller CBE RN fod yn bresennol - bydd ei ddirprwy Gomander, Tom Herman, yn ei gynrychioli;

·         Ni all Cyrnol (wedi ymddeol) N R Beard TD DL (Nick), Prif Weithredwr RFCA Cymru, fod yn bresennol ac felly mae wedi gofyn i'w Gadeirydd, Cyrnol Guy Clarke, gynrychioli RFCA Cymru, Yn anffodus, ni allai yntau fod yn bresennol ychwaith.

Cyflwynodd pawb o amgylch y bwrdd eu hunain (mae rhestr lawn o'r rhai a oedd yn bresennol ar gael ar gais).

Eglurodd y Cadeirydd fformat y cyfarfod.

Croesawyd y Brigadydd Napier i'w gyfarfod cyntaf gyda'r Grŵp Trawsbleidiol.

 

2.    Cyflwyniad gan Dr Neil J. Kitchener a'r Is-gyrnol (wedi ymddeol) John Skipper - y wybodaeth ddiweddaraf am Wasanaeth Iechyd a Lles Cyn-filwyr Cymru Gyfan ac Iechyd Meddwl Cyn-filwyr - gwnaed y cyflwyniad hwn gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint:

·         Hanes y GIG i Gyn-filwyr;

·         Eglurhad mai Caerdydd yw'r brif ganolfan;

·         Dim ond yn defnyddio triniaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth;

·         Gweithio gydag elusennau i gyn-filwyr;

·         Dylid cyfeirio pob cyn-filwr sydd â salwch meddwl at GIG Cymru i Gyn-filwyr;

·         Rhwydweithiau lleol gyda sefydliadau cyn-filwyr;

·         Mae gan Brifysgol Abertawe Bro Morgannwg gyfradd atgyfeirio uchel.

Dilynwyd y sgwrs gan sesiwn holi ac ateb - trafodwyd materion amrywiol, gan gynnwys:

·         Amseroedd atgyfeirio / amseroedd aros;

·         Demograffig - dynion yn bennaf;

·         Nid Anhwylder Straen Wedi Trawma yw'r unig broblem - mae ffactorau eraill fel alcohol a phroblemau iechyd meddwl eraill. Mae hyn ar y cyd â phroblemau o ran ffordd o fyw, fel diweithdra.  Nodwyd y caiff problemau alcohol eu hatgyfeirio a'u trin mewn lleoliad arall;

·         Profiad y claf;

·         Adolygiad Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mynegwyd pryder y gallai gwaith gael ei ddyblygu gyda Combat Stress (CS).  Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu CS. Mae'n cynnal cwrs dwys 6 wythnos mewn tair canolfan.  Cafwyd trafodaeth ynghylch y manteision o ddarparu cymorth i gleifion mewnol ac allanol - nid oes angen i Anhwylder Straen Wedi Trawma gael ei drin mewn lleoliad ar gyfer cleifion mewnol.  Cafwyd trafodaeth hefyd ynghylch yr agwedd ar atgyfeirio rhwng gwasanaeth y GIG a CS - ni chaiff ei wneud ar hyn o bryd. Mae gwasanaeth y GIG yn trin pobl fel y gallant aros gartref ac mae'n gweithredu'n agosach at gartrefi pobl nag y gall CS.  Fodd bynnag, mae Dr Kitchener yn cwrdd â grwpiau cymorth CS.

Darren Millar: Materion sy'n ymwneud â chyhoeddusrwydd a galw

·         Diffyg cymorth gweinyddol;

·         Mae'n wasanaeth y mae'n rhaid ei ddewis ac felly dim ond hyn a hyn y gellir ei wneud.

John Skipper: Dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth

·         Hywel Dda - Gofal iechyd integredig;

·         Hyrwyddwyr lleol;

·         Yr angen am gydlyniant.

Y Brigadydd Gamble: materion o ran capasiti

·         Trafodaeth â Dr Kitchener ynghylch cyn-filwyr yn defnyddio'r gwasanaethau iechyd meddwl, yn aml 13 neu 14 o flynyddoedd ar ôl gwasanaethu yn y lluoedd.

Y Lleng Brydeinig Frenhinol: Adolygiad Iechyd Cyhoeddus Cymru yn hwyr iawn - dylai Llywodraeth Cymru fod wedi cynnal yr adolygiad pan gawsant wybod am y tro cyntaf.  Nodwyd hefyd fod angen cydlyniant gwell â Combat Stress.

Trafododd Dr Kitchener a DM bwysigrwydd cyhoeddusrwydd ond hefyd yr angen i ymdrin â'r ôl-groniad presennol.  Cafwyd trafodaeth am gael mwy o staff, yn arbennig yr angen am staff gweinyddol.  Nododd Dr Kitchener ei bryderon ynghylch y ffaith y gofynnir i'r staff gweinyddol presennol weithio oriau hir sydd uwchlaw eu graddau cyflog.

Cytunwyd y byddai DM yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn tynnu ei sylw at y canlynol:

·         Staff gweinyddol;

·         Amseroedd aros;

·         Croesawu'r adolygiad ond yn gofyn iddi ymdrin â'r materion yr ydym yn gwybod eu bod yn broblem nawr e.e. staff gweinyddol a chapasiti.

3.    Cyflwyniad gan Peter Evans o'r Lleng Brydeinig Frenhinol - y wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau i'r dreth gyngor a chodi ffioedd am wasanaethau gofal cymdeithasol a sut yr effeithir ar y rheini sy'n cael Pensiynau'r Rhyfel - rhoddwyd papur briffio ysgrifenedig i'r Grŵp Trawsbleidiol, a gellir ei ddarparu ar gais.

·         Trafododd PE y sefyllfa bresennol;

·         Mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol yng Nghymru yn gofyn a oeddent yn bwriadu diystyru iawndaliadau milwrol yn llawn wrth gynnal profion modd ar gyfer y dreth gyngor - nid yw wedi cael unrhyw ymateb.  Cytunodd DM i ysgrifennu at bob awdurdod yn nodi nad oedd y Lleng wedi clywed unrhyw beth ac yn gofyn iddynt gadarnhau eu sefyllfaoedd;

·         Caiff y mater ei drafod yng nghynhadledd Hyrwyddwyr y Lluoedd Arfog ym mis Mai.

Yna, rhoddodd Harriet Dean o'r Lleng Brydeinig Frenhinol y wybodaeth ddiweddaraf inni am godi ffioedd am wasanaethau gofal cymdeithasol.

·         Caiff £10 cyntaf y pensiwn rhyfel ei ddiystyru;

·         Caiff ei ystyried fel iawndal yn hytrach nag incwm;

·         Ni ŵyr am UNRHYW awdurdod lleol sy'n ei ddiystyru;

·         Mae'n edrych ar y cymorth ychwanegol sydd ar gael;

·         Caiff hyn hefyd ei drafod yn y gynhadledd ym mis Mai;

·         Y Credyd Cynhwysol - yn naturiol, caiff y pensiwn rhyfel ei ddiystyru.

 

4.    Cyflwyniad gan yr Is-gapten Suzanne Lynch RNR, Dr Hicks a Mr Paul McCann ar y rhaglen addysg Cymru yn y Rhyfel (W@W - Wales at War) - defnyddiwyd cyflwyniad PowerPoint y gellir ei ddarparu ar gais:

·         Ar hyn o bryd, mae'r astudiaeth o'r Rhyfel Byd Cyntaf yn sylfaenol, yn canolbwyntio ar y ffosydd a'r weiren bigog, ond roedd llawer mwy i'r rhyfel hwn;

·          Roedd y prosiect hwn yn ymdrech ar y cyd gan sawl grŵp, gan gynnwys athrawon;

·         Canolbwyntio ar gofebau lleol;

·         Caiff y Rhyfel Byd Cyntaf ei astudio mewn ysgolion cynradd;

·         Gwella dealltwriaeth pobl o'r gorffennol y tu hwnt i'r lluniau o'r ffosydd;

·         Ymweld â'r cofebau a dysgu amdanynt a'r bobl sydd wedi'u henwi arnynt, yn ogystal ag ystyried eu straeon cefndirol - caiff bywgraffiadau eu casglu a'u cadw'n electronig;

·         Bydd hyn yn creu catalog digidol o holl gofebau'r Rhyfel;

·         Canolbwyntio ar Gyfnodau Allweddol 2 a 3;

·         Darparu'n electronig i'r ystafell ddosbarth;

·         Allbwn ar draws y cwricwlwm;

·         Gall pobl weld bywgraffiadau'r plant pan fyddant yn ymweld â'r cofebau;

·         Cydnabod y gall rhai o gofebau'r Rhyfel fod yn neuaddau pentref lleol ac ati;

·         Canolbwyntio ar enwau a straeon - a gaiff eu cadw i gyd ar App ffôn symudol;

Ø  Ble roeddent yn byw;

Ø  Ble y buont yn ymladd;

Ø  Beth yr oeddent yn ei wneud cyn y Rhyfel;

Ø  Cysylltu hynny â beddau'r Rhyfel yn y dyfodol;

·         Caiff Croes Victoria Cymru ac ati eu nodi ar y llinell amser;

·         Defnyddio ffynonellau eraill fel papurau newydd;

·         Yna, byddant yn trafod y prosiect hwn â'u teuluoedd a'u cymunedau;

·         Y pwysigrwydd o roi enwau i wynebau - yn gweithio fel catalydd ar gyfer y gymuned;

·         Gall y genhedlaeth hŷn basio ei straeon ymlaen;

·         Gweithio gydag Amgueddfa Genedlaethol Cymru;

·         Mae'r llwyfan digidol yn golygu ei fod ar gael yn fyd-eang;

·         Sgiliau y gellir eu trosglwyddo;

·         Rhoi etifeddiaeth y Rhyfel Byd Cyntaf i Gymru.

 

Cafwyd trafodaeth ar ôl y cyflwyniad hwn:

Ø  Cytunodd DM fod y prosiect hwn yn syniad gwych a dywedodd y byddai'n ysgrifennu llythyr at y Gweinidog a Chronfa Dreftadaeth y Loteri i'w hannog i roi cefnogaeth ariannol i'r prosiect hwn;

Ø  Ar hyn o bryd, mae'r prosiect yn ei gyfnod peilot;

Ø  Pum mlynedd o gyllid - y nod yw y bydd y prosiect yn cyrraedd y canmlwyddiant ym 1918;

Ø  Lansio'r prosiect ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog.

 

4.    Nid oedd unrhyw fater arall.